GWYBODAETH AM ME
Cefndir
:
Amcangyfrifir bod tua 11,600 o bobl yn dioddef o ME yng Nghymru, ac y gall y
ffigwr fod yn fwy na hyn. Mae'n effeithio pob math o bobl, yn ddynion a menywod
o bob oedran. Mae eu profiad o'r salwch yn amrywio'n eang o fod yn ddifrifol
wael a heb allu codi o'r gwely neu'n dioddef o anhawster sy'n peri ychydig ffwdan
yn unig. Mae nifer yn gwella ac yn adennill rhywfaint o'u ffordd o fyw, gan
barhau i ymdrechu yn wyneb pyliau o ailwaelu ac ysbeidiau gwell. 'Does dim gwellhad
llwyr, a pharhau mae'r ansicrwydd a'r cecru yngly^n â natur y salwch a'r
driniaeth orau ar ei gyfer. Mae nifer o'r rhai sy'n dioddef o ME wedi profi
anghrediniaeth a dirmyg gan eu teuluoedd, ffrindiau, cyflogwyr, addysgwyr a'u
meddygon. Nid oes modd cael cytundeb hyd yn oed yngly^n ag enw'r salwch (ME,
CFS, ME/CFS, CFIDS acati).
Symptomau
:
Mae'r prif symptomau yn cynnwys llesgedd affwysol, difrifol; problemau gwybyddol
(canolbwyntio, cofio ac ati); a phoen yn y cyhyrau. Prif nodwedd y salwch, serch
hynny, yw bod y symptomau yn gwaethygu ar ôl ymdrech gorfforol neu feddyliol,
a hynny hyd at ddiwrnod neu fwy yn ddiweddarach. Mae natur anwadal y symptomau
yn nodwedd arwyddocaol arall. Gellir cael pyliau o ailwaelu ac ysbeidiau gwell
ar unrhyw adeg.
Triniaeth
:
Gall diagnosis buan a digon o orffwys yn y dyddiau cynnar, ac yn ystod pyliau
o ailwaelu, arbed rhag effeithiau gwaeth y salwch. Mae pob un yn wahanol ac
mae'n bwysig felly i bob un ddysgu drosto'i hun beth sy'n gweithio i'w arbed
rhag effaith y symptomau.