GWASANAETHAU IECHYD YNG NGHYMRU
YR NHS YNG NGHYMRU
O Ebrill 1af 2003 daeth y Grwpiau Iechyd Lleol yn Fyrddau Iechyd LLeol. Mae'r byrddau'n darparu gofal sylfaenol (meddygon teulu, deintyddion, optegwyr a fferyllwyr) a nhw sy'n gyfrifol am ddyfeisio strategaethau Iechyd Lleol, Gofal Cymdeithasol a Lles, a chomisiynu gwasanaethau. Mae'r 13 Ymddiriedolaeth CIG ag ac un Ymddiriedolaeth Ambiwlans Cymru-gyfan yn darparu gofal eilaidd (ysbytai a gwasanaethau ambiwlans) a gofal cymunedol (ymwelwyr iechyd, bydwragedd, nyrsys cymunedol, ffisiotherapyddion, therapyddion lleferydd a galwedigaethol).
Mae yna hefyd 22 o Gynghorau iechyd Cymunedol ymhob un o'r 22 ardal awdurdod lleol yng Nghymru a'u gwaith nhw ydy monitro perfformiad darparwyr gwasanaethau GIC ac i leisio barn y cyhoedd drwy ddatgan wrth reolwyr y gwasanaethau iechyd yr hyn y mae'r bobl ei angen a sut y gellir gwella pethau.
Gellir canfod rhagor o wybodaeth am bob un o'r Grwpiau Iechyd Lleol, Ymddiriedolaethau GIC a Chynghorau Iechyd Cymunedol Cymru ar: http://www.wales.nhs.uk/w-directory.cfm